Dod yn rhoddwr byw
Ledled y DU, mae mwy na 1,000 o bobl bob blwyddyn yn rhoi aren neu ran o’r iau tra byddan nhw’n dal yn fyw i berthynas, ffrind neu rywun nad nhw’n eu hadnabod.
Arennau yw’r organau a roddir amlaf gan bobl sy’n fyw, a gall unigolyn iach fyw bywyd normal gyda dim ond un aren.
Gall trawsblaniad arennau drawsnewid bywyd rhywun sydd â chlefyd ar yr arennau.
Llwythwch ein taflenni ffeithiau i lawr
Dod yn rhoddwr aren byw
Mae trawsblaniad rhoddwyr iau byw wedi cael ei wneud yn llwyddiannus yn y DU ers 1995.
Mae llawdriniaeth i drawsblannu’r iau yn llawdriniaeth sy’n achub bywydau i gleifion sydd â chamau terfynol clefyd yr iau.