Rhoi rhan o’ch iau i rywun rydych chi’n ei adnabod

Cyn i chi fwrw ymlaen...

Porwch drwy’r wybodaeth a ddarparwyd gennym i gael gwybod mwy am yr hyn sydd dan sylw.

Cofrestru eich diddordeb

Os ydych chi’n byw yn y DU a bod gennych ddiddordeb mewn rhoi rhan o’ch iau i aelod o’r teulu neu ffrind, cysylltwch â’r ganolfan drawsblannu lle mae’r derbynnydd arfaethedig yn debygol o gael ei lawdriniaeth drawsblannu.

Dim ond eich enw a’ch manylion cyswllt fydd angen i chi eu rhoi. Bydd cydlynydd rhoddwyr iau byw yn cysylltu â chi i drafod eich ymholiad ymhellach.*

Dewiswch ranbarth isod i weld y manylion cyswllt.

*Os na fyddwch chi’n cael ymateb i’ch e-bost cyn pen 5 diwrnod gwaith, ailanfonwch eich cais neu cysylltwch â ni i gael rhagor o gyngor.

Cymru a Gogledd Iwerddon

Yn anffodus, does dim canolfannau trawsblannu iau yng Nghymru na Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon, gallwch holi ynghylch derbyn gofal yn un o’n canolfannau trawsblannu yn Lloegr.

Lloegr

Yr Alban

Mwy o wybodaeth