Cyrchu’r ffeithiau am roi organau
Mae eich penderfyniad rhoi organau yn bwysig, beth bynnag y bo.
Defnyddiwch y wybodaeth hon i'ch helpu i wneud dewis gwybodus.
Gwneir pob ymdrech i achub eich bywyd yn anad dim arall
Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd gofal i achub eich bywyd yn gyntaf.
Os yw marwolaeth yn anochel er gwaethaf eu hymdrechion gorau, bydd rhoi organau a meinwe yn cael ei ystyried wrth i drafodaethau gofal diwedd oes ddechrau gyda'ch anwyliaid.
Dim ond pan ddechreuir cynllunio gofal diwedd oes y mae nyrs arbenigol y GIG yn troi at Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG a thrafodir y posibilrwydd o roi organau gyda'ch teulu.
Cadarnheir marwolaeth yn unol â meini prawf llym
Mae meini prawf llym ar waith yn y Deyrnas Unedig i helpu'r rheini sy'n gofalu am unigolion sy’n marw, trwy ddarparu meini prawf diogel, amserol a chyson ar gyfer gwneud diagnosis o farwolaeth.
Nid yw organau byth yn cael eu symud nes bod marwolaeth claf wedi'i gadarnhau yn unol â'r meini prawf hyn.
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn marw mewn amgylchiadau sy'n ei gwneud hi'n bosibl iddynt roi eu horganau.
Mewn gwirionedd, dim ond tua un o bob 100 o bobl sy'n marw yn y DU sy'n gallu bod yn rhoddwyr. Fel arfer, mae rhoddwyr wedi marw mewn uned gofal dwys neu adran achosion brys ysbyty.
Mae'r broses rhoi organau yn cynnwys tîm arbenigol sy'n sicrhau bod rhoddwyr yn cael eu trin â'r gofal a'r parch mwyaf wrth dynnu organau a meinwe i'w rhoi.
Mae adfer organau yn digwydd mewn theatr lawdriniaeth arferol o dan amodau di-haint, ac mae'n cael ei wneud gan lawfeddygon arbenigol. Ar ôl adfer yr organau, mae'r toriad llawfeddygol yn cael ei gau yn ofalus ac yn cael ei rwymo yn y ffordd arferol.
Dim ond yr organau a'r meinwe hynny a nodwyd gan y rhoddwr ac y cytunwyd arnynt gyda'r teulu fydd yn cael eu tynnu.
Bydd eich ffydd a’ch credoau yn cael eu parchu ar bob achlysur.
O fewn system optio allan, chi sydd i benderfynu a ydych yn dewis rhoi eich organau ai peidio.
Os nad ydych chi am roi eich organau, mae'n gyflym ac yn syml iawn cofnodi'ch penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Efallai eich bod wedi gweld negeseuon camarweiniol ar gyfryngau cymdeithasol yn honni bod y dedlein ar gyfer cofrestru eich penderfyniad rhoi organau yn dod yn fuan.
Does dim dedlein mewn gwirionedd.
Rydych yn rhydd i gofrestru neu newid eich penderfyniad rhoi organau ar unrhyw adeg.
Tynnu eich gwybodaeth yn ôl
Dim ond os ydych wedi cofnodi penderfyniad o'r blaen y gallwch dynnu'ch manylion yn ôl o Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Nid oes unrhyw un yn cael ei ychwanegu at restr yn awtomatig. Oni bai eich bod yn cofnodi eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG, ni fyddwn yn cadw unrhyw fanylion amdanoch chi na'ch dewisiadau.
Optio allan o roi organau
Os ydych chi'n cofnodi penderfyniad i optio allan, rydych chi'n mynegi nad ydych chi am roi eich organau a'ch meinwe ar ôl marwolaeth.
Ychwanegir eich penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG, a bydd yn cael ei barchu os byddwch chi'n marw.
Cyrchu gwybodaeth am y dewisiadau y gallwch chi eu gwneud
Gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg
Os ydych wedi cofnodi penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG ac eisiau diweddaru eich manylion, newid neu ailddatgan eich penderfyniad, gallwch lenwi'r ffurflen Diwygio’ch Manylion neu ffonio 0300 123 23 23.
Sicrhewch eich bod yn rhannu eich penderfyniad diweddaraf gyda’ch teulu.
Gallwch enwebu rhywun i wneud penderfyniad ar eich rhan
Efallai na fyddwch am wneud penderfyniad am roi organau eich hun. Efallai bod gennych gyfarwyddiadau penodol, neu bryderon ynghylch eich teulu'n gwrthod cefnogi'ch penderfyniad.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch enwebu hyd at ddau gynrychiolydd i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch rhoi organau ar eich rhan.
Os byddwch yn marw mewn amgylchiadau lle mae rhoi organau yn bosibl, gofynnir i'ch cynrychiolydd / cynrychiolwyr penodedig a ddylid rhoi eich organau.
Fel arall, gallwch ffonio ein canolfan gyswllt ar 0300 123 23 23 i wneud cais i dderbyn ffurflen drwy’r post.
Gall eich teulu ddiystyru eich penderfyniad os nad ydynt yn gwybod eich dymuniadau
Bob blwyddyn, collir cannoedd o gyfleoedd am drawsblaniadau oherwydd nad yw teuluoedd yn gwybod beth i’w wneud.
Ymgynghorir â’ch teulu bob amser ynghylch a oeddech chi eisiau bod yn rhoddwr organau ai peidio, ac ni fydd clinigwyr byth yn bwrw ymlaen â’r broses os bydd eich teulu neu’ch anwyliaid yn gwrthwynebu.
Os hoffech chi roi eich organau
Os ydych chi eisiau bod yn rhoddwr organau ar ôl i chi farw, mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch anwyliaid ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn deall ac yn cefnogi eich penderfyniad. Gallwch hefyd gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Os nad ydych chi eisiau rhoi eich organau
Os byddwch chi’n penderfynu peidio â rhoi organau, gallwch helpu eich teulu drwy gyfnod anodd drwy siarad â nhw am eich penderfyniad, a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth rydych chi ei eisiau. Gallwch hefyd gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Cyngor ar sut i siarad gyda’ch anwyliaid am roi organau
Cyrchu gwybodaeth am y dewisiadau y gallwch chi eu gwneud
Rhodd golwg
Mae nifer o bobl yn teimlo’n anghyfforddus yn meddwl am roi cornbilennau, ond y gwir amdani yw y gall olygu rhoi golwg i rywun sydd wir angen trawsblaniad.
A oeddech yn gwybod?
- Nid yw'r llygad cyfan byth yn cael ei drawsblannu
- Nid yw rhoi cornbilen yn effeithio ar sut mae rhoddwr yn edrych
- Nid yw rhoi cornbilen yn oedi angladd y rhoddwr
Mae'r holl brif grefyddau a chredoau yn agored i egwyddorion rhoi organau
Mae'r holl brif grefyddau a chredoau yn y DU yn agored i egwyddorion rhoi a thrawsblannu organau ac yn derbyn bod rhoi organau yn ddewis unigol.
Rydym wedi gweithio gydag arweinwyr a chymunedau ffydd i adeiladu ymddiriedaeth, codi ymwybyddiaeth, archwilio cwestiynau ynghylch rhoi organau a meinwe, a thrafod sut y gall rhoi organau ddigwydd yn unol â ffydd neu gredoau.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch a yw'ch ffydd neu'ch credoau yn effeithio ar eich gallu i fod yn rhoddwr organau, siaradwch â'ch arweinydd ffydd.
Bydd eich ffydd a'ch credoau bob amser yn cael eu parchu
Pan fyddwch chi'n cofrestru fel rhoddwr organau, mae gennych gyfle i nodi a hoffech i'r GIG siarad â'ch anwyliaid ai peidio ynghylch sut y gall rhoi organau ddigwydd yn unol â'ch ffydd neu system gred.
Mae hon yn rhan ddewisol o'r broses gofrestru, ond bydd unrhyw ymateb a roddwch yn rhan o'ch cofnod Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Mae gwybodaeth am eich ffydd a'ch credoau yn ddewisol, a bydd yn cael ei chadw'n gyfrinachol
Pan fyddwch chi'n cofrestru'ch penderfyniad i roi organau, gallwch chi ddarparu gwybodaeth am eich crefydd a'ch ethnigrwydd yn yr adran wybodaeth ychwanegol.
Mae'r wybodaeth hon yn gwbl ddewisol, a dim ond ar gyfer dadansoddi Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG gan Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG y caiff ei defnyddio. Nid yw'n cael ei storio yn erbyn eich cofrestriad.
Gallwch ychwanegu gwybodaeth am eich ffydd a’ch credoau ar unrhyw amser
Os ydych eisoes wedi cofnodi penderfyniad rhoi organau, ond heb gofnodi unrhyw wybodaeth ynghylch a hoffech i'r GIG siarad â'ch teulu ai peidio ynghylch sut y gall rhoi organau ddigwydd yn unol â'ch ffydd neu'ch credoau, gallwch wneud hynny o hyd.
Gallwch:
- Ddiwygio eich cofrestriad ar-lein
- Ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth cyfrwng Saesneg)
Byddwn yn hapus i ddiweddaru eich cofnod ar eich rhan.
Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch ddiweddaru eich cofrestriad gan ddefnyddio ap y GIG.
Ni fydd cynlluniau eich angladd yn cael eu heffeithio gan roi organau
Bydd ein nyrsys arbenigol bob amser yn siarad â'ch teulu i weld a oes ystyriaethau o amgylch eich ffydd, credoau neu ddiwylliant mewn perthynas â chynlluniau eich angladd.
Mae'r llawdriniaeth a wneir i dynnu organau rhoddwr yn cael ei chynnal gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sy'n cymryd yr un gofal a sylw, ac sy'n dangos yr un parch ag y byddent mewn unrhyw lawdriniaeth i achub bywyd claf.
Mae'r toriadau llawfeddygol yn cael eu rhwymo'n ofalus ar ôl y llawdriniaeth ac mae unrhyw ddymuniadau gofal diwedd oes mewn perthynas ag ymolchi a gwisgo'r corff yn cael eu parchu.
Bydd eich corff bob amser yn cael ei ddychwelyd i'ch teulu ar ôl rhoi organau
Perfformir y llawdriniaeth rhoi organau cyn gynted â phosibl ar ôl marwolaeth.
Ar ôl rhoi organau, mae'r corff bob amser yn cael ei ddychwelyd i deulu'r ymadawedig, yn yr un modd ag unrhyw farwolaeth mewn ysbyty lle na roddir organau.
Rhoddir cyfle i deuluoedd dreulio amser gyda'u hanwylyd ar ôl y llawdriniaeth os dymunant.
Ni fydd rhoi organau neu meinwe yn eich atal rhag cael angladd arch agored.
Caiff y corff ei wisgo i'w gladdu, felly nid oes unrhyw arwyddion gweladwy o roi organau neu feinwe.
Caiff safle'r llawdriniaeth ei orchuddio â dresin lawfeddygol wen, fel unrhyw ddresin llawfeddygaeth abdomenol arall.
Mwy o wybodaeth
- Deddf Meinweoedd Dynol 2004 (Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon) (Bydd y ddolen hon yn agor yn Saesneg)
- Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA) (Bydd y ddolen hon yn agor yn Saesneg)