Ffeithiau am roi cornbilennau

English

 

Rydyn ni eisiau i chi allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a ydych chi am roi eich cornbilennau ai peidio, felly rydyn ni wedi ateb rhai o'r camsyniadau cyffredin.

Fel rhoddwr cornbilennau, gallech roi’r rhodd o olwg i rywun sydd wir angen trawsblaniad. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi y ffeithiau i gyd.

Rhoi a’ch penderfyniad

Nid yw’r llygad byth yn cael ei drawsblannu

Er y byddwch o bosibl yn clywed pobl yn siarad am roi llygaid, dim ond y gornbilen sy’n cael ei thrawsblannu. Y gornbilen yw’r haen allanol glir o feinwe o flaen y llygad sy’n gadael golau i mewn golau fel eich bod yn gallu gweld.

Gallwch newid eich meddwl

Gallwch newid eich meddwl yn rhwydd am roi cornbilennau unrhyw adeg. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw diwygio eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG


Pwy sy’n gallu rhoi eu cornbilennau?

Nid yw canser yn eich atal rhag rhoi eich cornbilennau

Gall pobl â’r rhan fwyaf o fathau o ganser dal roi eu cornbilennau. Nid yw’r cornbilennau’n cynnwys pibellau gwaed, sy’n dileu’r risg o drosglwyddo’r rhan fwyaf o fathau o ganser.

Nid yw golwg wael yn eich atal rhag rhoi eich cornbilennau

Gall pobl â golwg wael dal roi eu cornbilennau. Nid yw llawer o gyflyrau sy’n effeithio ar olwg person yn effeithio’n uniongyrchol ar y cornbilennau, sy’n golygu ei bod hi dal yn bosibl i'w rhoi. 


Cynlluniau angladd

Nid yw rhoi cornbilennau yn gohirio angladd y rhoddwr

Nid yw rhoi cornbilennau yn gohirio unrhyw drefniadau angladdol, ac mae ein nyrsys arbenigol bob amser yn siarad â’r teulu i weld a oes ystyriaethau ynghylch ffydd, credoau neu ddiwylliant rhywun mewn perthynas â chynlluniau angladd.

Nid yw rhoi cornbilennau yn effeithio ar sut mae rhoddwr yn edrych

Bydd ein tîm arbenigol yn gwneud yn siŵr bod y rhoddwr yn edrych yn naturiol ar ôl y broses. Mae llawer o roddwyr yn mynd ymlaen i gael angladd casged agored.

Nid oes angen i’r rhoi ddigwydd ar unwaith

Gallwch roi eich cornbilennau hyd at 24 awr ar ôl i chi farw a gall ddigwydd ar ôl marwolaeth yn yr ysbyty, mewn hosbisau, neu mewn cartrefi angladdau. 


Mae rhoi cornbilennau yn newid bywydau

Angharad yn sefyll ger harbwr, yn gwenu
Mae teulu seren CBeebies, Angharad Rhodes, yn ddiolchgar dros ben bod ei rhoddwr wedi dewis rhoi ei chornbilennau.

Angharad yw seren rhaglen CBeebies, Melody, ac mae’n chwarae cymeriad rhannol ddall sy’n archwilio cerddoriaeth drwy ei dychymyg.

Cafodd ei geni gyda chataractau yn y ddau lygad a chyflwr o’r enw microphthalmia, sef pan fydd y llygaid yn rhoi’r gorau i ddatblygu yn ystod beichiogrwydd.

Ar ôl cael profion helaeth, cafodd Angharad ddiagnosis o gyflwr prin iawn o’r enw syndrom oculofaciocardiodental (OFCD) a effeithiodd ar ei llygaid, nodweddion ei wyneb, ei chalon a’i dannedd.

Cafodd Angharad nifer o lawdriniaethau i geisio gostwng y gwasgedd yn ei llygad. Dywedodd ei mam, Lynda: “Penderfynodd y meddygon osod falf fecanyddol yn ei llygad i gadw’r gwasgedd i lawr. Roedd y llawdriniaeth hon yn golygu defnyddio cornbilen gan roddwr.”

“Drwy gael trawsblaniad cornbilen, mae Angharad wedi cadw ei chanfyddiad o olau ac wedi mwynhau ffilmio trydedd gyfres fel Melody. Mae Angharad nawr yn gobeithio helpu i ysbrydoli plant ac oedolion yn ei rôl fel Melody ac fel eiriolwr dros yr elusen Live Life Give Life.”

Fel teulu, rydyn ni mor ddiolchgar bod rhywun yn dewis rhoi eu cornbilennau... Ni all geiriau fynegi pa mor ddiolchgar ydw i.
Lynda

Mam Angharad

Mwy o wybodaeth