Beth yw Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG?

English

 

Mae Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn gofnod cyfrinachol o benderfyniad pobl ynglŷn â rhoi organau.

Mae’n cofnodi eich dewis i fod yn rhoddwr organau ai peidio pan fyddwch chi’n marw.

Gallwch chi hefyd ei defnyddio i enwebu rhywun i wneud penderfyniad ar eich rhan ynglŷn â rhoi organau.

Pam ddylech chi gofrestru penderfyniad ynglŷn â rhoi organau?

Pan fyddwch chi’n cofrestru eich penderfyniad ynglŷn â rhoi organau, rydych chi’n helpu eich anwyliaid i wybod beth rydych chi ei eisiau.

Dim ond gyda chefnogaeth eich teulu y bydd rhoi organau yn digwydd, ac ni fydd clinigwyr yn bwrw ymlaen â rhoi organau os bydd eich teulu neu’ch anwyliaid yn gwrthwynebu.

Os byddwch chi’n gallu bod yn rhoddwr organau yn y dyfodol, bydd nyrs arbenigol yn edrych ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i weld a oeddech chi wedi cofnodi penderfyniad ac wedi trafod hyn gyda’r bobl agosaf atoch chi.

Heb eich penderfyniad chi i’w helpu, efallai na fydd eich anwyliaid yn siŵr beth i’w wneud.

Gweithredwch nawr i achub bywydau yn y dyfodol.

Ein hymrwymiad i ffydd a chredoau

Os byddwch chi’n cofnodi penderfyniad i roi eich organau, byddwch chi hefyd yn cael cyfle i ddweud a fyddech chi’n hoffi i staff y GIG siarad â’ch teulu ac unrhyw berson priodol arall am sut mae rhoi organau yn gallu cyd-fynd â’ch ffydd neu’ch credoau.

Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi eich ffydd a’ch credoau drwy gydol y broses o roi organau neu feinwe.

Os byddwch chi’n marw, byddwn ni’n dweud wrth eich teulu bod eich ffydd a’ch credoau yn bwysig i chi, byddwn ni’n cefnogi eich teulu i siarad â’ch arweinydd ffydd neu gynrychiolydd o’ch system gred, ac yn darparu gwybodaeth i gefnogi’r trafodaethau.

Rhagor o wybodaeth am Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG

Mwy o wybodaeth



You may also be interested in