Helpwch ni i ddathlu Wythnos Rhoi Organau

English

 

Sut gallwch chi helpu

Pwrpas Wythnos Rhoi Organau ydy codi ymwybyddiaeth, ac rydych chi’n rhan fawr o hynny.

Ar y dudalen hon, rydyn ni wedi rhannu ambell ffordd i chi gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth i roi organau. Tarwch olwg i weld sut gallwch chi helpu!

Cadwch ni mewn cysylltiad

Rhannwch beth fyddwch chi’n ei wneud yn ystod Wythnos Rhoi Organau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy:

Ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol: @NHSOrganDonor

Defnyddiwch: #WythnosRhoiOrganau #OrganDonationWeek

Ewch yn binc a dathlu

Gallwch ein helpu i godi ymwybyddiaeth, atgoffa pobl i gofrestru eu penderfyniad am roi organau a dathlu 30 mlynedd o Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Pinc ydy lliw Cerdyn Rhoi Organau’r GIG, felly er mwyn codi ymwybyddiaeth o roi organau, sef rhodd sy’n achub bywydau, rydym eisiau troi’r byd yn binc gymaint ag y gallwn ni.

Swnio’n hwyl? Cliciwch isod i weld sut gallwch chi gymryd rhan.

Gwnewch sŵn

Gallwch ein helpu i godi ymwybyddiaeth yn ystod wythnos Rhoi Organau drwy wneud y canlynol:

  • Rhannu eich lluniau ‘pinc’ ar y cyfryngau cymdeithasol, a’n tagio ni yn @nhsorgandonor
  • Annog pobl i ddefnyddio Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i gadarnhau eu penderfyniad am roi organau
  • Rhannu ein deunyddiau digidol ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i godi ymwybyddiaeth
  • Rhannu eich stori rhoi organau chi ar y cyfryngau cymdeithasol a’n tagio ni yn @nhsorgandonor
  • Rhannu’r dudalen hon i roi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw gefnogi ein hymgyrch

Cofrestrwch eich penderfyniad

Wrth rannu ein neges bwysig, cofiwch gofrestru eich penderfyniad i roi organau hefyd!