Rhoi rhan o’ch iau i rywun rydych chi’n ei adnabod
Cyn i chi fwrw ymlaen...
Porwch drwy’r wybodaeth a ddarparwyd gennym i gael gwybod mwy am yr hyn sydd dan sylw.
Cofrestru eich diddordeb
Os ydych chi’n byw yn y DU a bod gennych ddiddordeb mewn rhoi rhan o’ch iau i aelod o’r teulu neu ffrind, cysylltwch â’r ganolfan drawsblannu lle mae’r derbynnydd arfaethedig yn debygol o gael ei lawdriniaeth drawsblannu.
Dim ond eich enw a’ch manylion cyswllt fydd angen i chi eu rhoi. Bydd cydlynydd rhoddwyr iau byw yn cysylltu â chi i drafod eich ymholiad ymhellach.*
Dewiswch ranbarth isod i weld y manylion cyswllt.
Cymru a Gogledd Iwerddon
Yn anffodus, does dim canolfannau trawsblannu iau yng Nghymru na Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon, gallwch holi ynghylch derbyn gofal yn un o’n canolfannau trawsblannu yn Lloegr.