Ddiwrnod Arennau’r Byd

Yn ystod y pandemig, bu gostyngiad o un rhan o dair mewn trawsblaniadau arennau, felly mae hi'n bwysicach nag erioed i bobl Cymru rannu eu penderfyniad am roi organau ac ystyried rhoi aren yn ystod eu hoes.

10 Mawrth 2022

Mae 148 o bobl yn aros am drawsblaniad aren yng Nghymru, ac mae disgwyl i’r ffigur hwn godi*. Felly, ar Ddiwrnod Arennau’r Byd (dydd Iau 10 Mawrth 2022), mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn galw ar bawb yng Nghymru i rannu eu penderfyniad ynghylch rhoi organau ac i ystyried bod yn rhoddwyr aren byw.

Wrth edrych ar ystadegau trawsblannu organau, trawsblaniadau arennau sydd wedi cael eu taro waethaf yn ystod y pandemig, gyda gostyngiad o 22% mewn trawsblaniadau rhoddwyr wedi marw a gostyngiad o 60% mewn trawsblaniadau rhoddwyr byw. Mae hyn yn ostyngiad cyffredinol o 32% mewn trawsblaniadau arennau yn y DU yn 2020/21, o’i gymharu â 2019/2020**.

Mae hyn yn golygu bod tua 1,100 yn llai o gleifion wedi cael trawsblaniad aren yn y DU yn 2020/21, o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. O ran trawsblaniadau rhoddwyr byw, 422 o gleifion oedd wedi elwa yn hytrach na’r 1,000 arferol, ac roedd 500 yn llai o drawsblaniadau gan roddwyr ar ôl marwolaeth**.

Yn anffodus, efallai y bydd y miloedd o bobl sy’n aros am drawsblaniad aren yn y DU yn gorfod aros yn hirach am roddwr aren byw neu farw gan nad ydynt wedi gallu cael trawsblaniad am y rhan fwyaf o’r pandemig, a bod y rhestr aros wedi cynyddu.

Mae trawsblaniadau rhoddwyr byw yn creu cyfleoedd i gleifion sy’n aros am drawsblaniad aren drwy leihau’r amser lle mae angen i bobl ddibynnu ar ddialysis, a drwy roi siawns o drawsblaniad llwyddiannus i’r cleifion sy'n aros y mwyaf o amser h.y. y rhai sydd fwyaf anodd eu paru, sydd wedi eu ‘sensiteiddio’ yn benodol (sy’n golygu bod ganddynt lefelau uwch o wrthgyrff a allai achosi i’w corff wrthod organ a drawsblannwyd) neu sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig. 

Cael gwybodaeth am rhoi aren byw

Sut gallwch chi helpu

Stori Diana

Diana IsajavaRoedd Diana Isajava yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd pan ddechreuodd deimlo’n sâl mwyaf sydyn. Roedd hi wedi bod yn iach iawn felly wnaeth hi ddim meddwl llawer am y peth, ond bythefnos yn ddiweddarach cafodd ei rhuthro i’r ysbyty, lle bu'n rhaid iddi fynd i’r uned gofal dwys. Ar ôl cyfres o brofion a biopsi ar yr arennau, cafodd Diana ddiagnosis gan feddygon Ysbyty Brenhinol Morgannwg fod ganddi fath ffyrnig iawn o lwpws a oedd wedi achosi i’w harennau, ei chalon a’i ysgyfaint fethu.

Cafodd Diana therapi awtoimiwn cryf iawn ar unwaith, ond ni lwyddodd i helpu gyda’i chyflwr. Felly penderfynodd y meddygon mai cemotherapi oedd yr unig opsiwn, a dechreuodd Diana gael triniaethau cemotherapi yn y bore a mynd i’w darlithoedd yn y brifysgol yn y prynhawn.

Dywedodd: “Dim ond 19 oeddwn i ar y pryd ac roeddwn i’n dal yn ysgol y gyfraith. Roedd hyn yn help mawr i mi ganolbwyntio a chadw fy meddwl oddi ar fy salwch. Cefais wyth mlynedd o gemotherapi di-stop, felly roedd yn gyfnod anodd iawn.”

Llwyddodd Diana, a symudodd i Gaerdydd o’i gwlad enedigol, Lithwania pan oedd hi’n 12 oed, i gwblhau ei chyfnod yn ysgol y gyfraith, a daeth yn baragyfreithiwr. Ond oherwydd y triniaethau yr oedd hi’n eu cael i helpu gyda’r lwpws, dechreuodd ei harennau fethu a daeth ei gyrfa i stop. Roedd hi wrthi’n trefnu ei phriodas â’i dyweddi, Sandeep, pan ddaeth pandemig COVID-19 yn gynnar yn 2020, a bu’n rhaid iddyn nhw ohirio eu cynlluniau.

A hithau'n 28 oed, dywedodd: “Roeddwn i’n teimlo bod fy mywyd cyfan wedi dod i stop oherwydd COVID. Doeddwn i ddim yn gallu priodi a chefais wybod fy mod i ar y rhestr warchod gan fod gen i imiwnedd gwan, felly roeddwn i’n teimlo’n unig iawn a bod pawb wedi anghofio amdanaf. Fe ddioddefodd fy iechyd meddwl ac ar un adeg fe wnes i hyd yn oed ystyried gwrthod dialysis neu drawsblaniad a dewis gofal lliniarol oherwydd roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth yn gweld diwedd y pandemig na’r salwch.

“Ond yn y diwedd, cefais gysur gan grŵp cefnogi elusen arennau yng Nghymru, a dechreuais sgwrsio â menyw a oedd wedi cael dau drawsblaniad ac a oedd yn ôl ar ddialysis yn aros. Fe wnaeth hi fy ysbrydoli i beidio â rhoi’r ffidil yn y to a mwynhau bywyd er gwaethaf fy mhroblemau iechyd. Felly penderfynais gael y profion a chael fy rhoi ar restr ar gyfer trawsblaniad.”

Oherwydd ei phroblemau iechyd eraill, aren gan roddwr byw fyddai'n rhoi'r siawns orau i Diana gael trawsblaniad llwyddiannus. Yn anffodus, mae gan ei mam ei phroblemau iechyd ei hun a bu farw ei thad ychydig flynyddoedd yn ôl. Felly, a hithau’n unig blentyn, aren gan ddieithryn yw’r unig opsiwn. Ychwanega Diana: “Byddai cael trawsblaniad, a chael cyfle i ddechrau byw bywyd yn iawn – trefnu fy mhriodas eto a chroesawu’r dyfodol – yn golygu popeth i mi.”

Gall pobl roi aren yn ystod eu hoes i unigolyn penodol (perthynas, ffrind neu rywun maen nhw’n ei adnabod sydd angen trawsblaniad) neu ddewis rhoi’n ddienw lle bydd eu haren naill ai’n mynd i glaf â blaenoriaeth uchel ar y rhestr drawsblaniadau neu greu cadwyn o drawsblaniadau drwy gynllun rhannu arennau byw y DU.

Cael gwybodaeth am rhoi aren byw

Stori Ceri

Penderfynodd Ceri Nelson roi aren i rywun nad oedd yn ei adnabod ar ôl clywed rhoddwr aren byw arall yn siarad am ei brofiad ar y radio.

Ceri NelsonCafodd Ceri, sy'n 61 oed ac yn dod o Borthcawl, ei hysbrydoli i wneud yr un fath, a rhoddodd aren yn 2017 i helpu i drawsnewid bywyd claf.

Dywed Ceri, sy'n fam i ddau o blant: “Pan glywais fod hyn yn bosibl, fe wnaeth daro tant gyda mi yn syth.

“Roeddwn i’n iach ac yn heini gyda bywyd llawn ac roeddwn i’n teimlo’n gryf fy mod i eisiau gwneud rhywbeth i helpu rhywun nad oedd mor ffodus. Nid oedd pawb yn deall fy mhenderfyniad, ond er ein bod bob amser yn gallu dod o hyd i resymau dros beidio â gwneud rhywbeth, mae’n well gen i chwilio am resymau dros wneud hynny.”

Gwirfoddolodd Ceri ei haren i’r tîm trawsblannu yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, lle cafodd ei rhoi drwy fisoedd lawer o brofion corfforol a seicolegol i sicrhau ei bod yn addas i roi aren.

A hithau'n nain i un, dywedodd: “Roedd y gefnogaeth a gefais gan y tîm yn yr ysbyty yn wych o’r diwrnod cyntaf. Cefais yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf drwy gydol y broses ac ni chefais fy rhoi dan unrhyw bwysau. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn rhywbeth y byddwn i’n mynd drwyddo pe bawn i’n cael fy ystyried yn rhoddwr addas.”

Treuliodd Ceri, sy’n aelod gweithgar o gymdeithasau drama amatur lleol, bum diwrnod yn yr ysbyty ac roedd yn ôl yn y gwaith dair wythnos ar ôl rhoi ei haren yn ystod haf 2017.

Dydy hi ddim yn difaru o gwbl. “Dydw i ddim yn difaru o gwbl a byddwn yn annog pobl eraill i ystyried a allen nhw wneud yr un peth. Mae rhoi cyfle i rywun gael ei iechyd yn ôl yn rhodd anhygoel.

“Bum mlynedd yn ddiweddarach, byddwn yn gwneud y cyfan eto heb feddwl ddwywaith. Dydy o ddim wedi effeithio ar fy mywyd i o gwbl. Roedd fy nheulu’n poeni ar y pryd ond maen nhw’n falch iawn ohonof i erbyn hyn.

“Dydy hyn ddim i bawb, ond gall pawb lofnodi’r gofrestr rhoi organau i roi eu horganau ar ôl iddynt farw. Byddwn yn sicr yn eich annog i dreulio ychydig funudau’n gwneud hyn, a chofio dweud wrth eich teulu.”

Dydy rhoi organau yn ystod eich oes ddim i bawb, a dydy pawb ddim yn rhoddwyr addas, felly bydd y rhan fwyaf o gleifion arennau’n dal i gael eu hachub gan roddwr organau sydd wedi marw. Mae’n bwysicach nag erioed dweud wrth eich teulu am eich penderfyniad i roi organau er mwyn helpu’r rheini sydd ar y rhestr aros.

Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau wedi newid i system optio allan ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, mae llawer o bobl yn dal ddim yn gwybod y cysylltir â theuluoedd bob amser cyn dechrau ar y broses o roi organau.

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi Organau a Meinwe a Thrawsblannu, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig yn peri pryder mawr i gleifion arennau wrth i filoedd o bobl, gan gynnwys plant, aros am drawsblaniad aren sy’n newid bywyd.

“Rydyn ni’n falch bod y gwaith trawsblannu’n gwella erbyn hyn, ac rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cynifer o drawsblaniadau â phosibl yn digwydd cyn gynted â phosibl.

“Mae’n drist iawn bod cleifion yn wynebu amseroedd aros hirach a bod mwy o bobl angen trawsblaniad aren, felly mae’n bwysicach byth bod pawb yng Nghymru yn rhannu eu penderfyniad am roi organau gyda’u teuluoedd er mwyn helpu rhywun arall ar ôl eu marwolaeth. Ac os oes unrhyw un yng Nghymru yn fodlon ystyried bod yn rhoddwr aren byw, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.”

Cael gwybodaeth am rhoi aren byw

Nodiadau

* Ar y rhestr aros weithredol (ar 31 Ionawr 2022) roedd 148 o bobl yn aros am aren yng Nghymru. Disgwylir i’r nifer hwn godi. Mae ffigurau’r rhestrau aros swyddogol yn artiffisial is ar hyn o bryd gan fod rhai cleifion wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr dros dro oherwydd y risg o fod â system imiwnedd wan yn ystod y pandemig, o’i gymharu â’r gallu i barhau i reoli eu cyflwr a pheidio â bwrw ymlaen â thrawsblaniad ar hyn o bryd. Pan fydd rhestrau aros gweithredol yn cael eu hadfer yn llawn, rydym yn rhagweld y bydd oddeutu 7,000 o bobl angen trawsblaniad ledled y DU. Fel arfer, mae tri chwarter y cleifion sy’n aros angen trawsblaniad aren.

** Roedd gostyngiad cyffredinol o 32% yn nifer y trawsblaniadau arennau, o 3,505 yn 2019/20 i 2,353 yn 2020/21. Roedd 1,152 yn llai o drawsblaniadau.

Roedd 1,931 o drawsblaniadau arennau rhoddwyr wedi marw yn y DU yn 2020/21. Yn 2019/20, roedd y ffigur yn 2,466. Roedd hyn yn ostyngiad o 22%, a oedd yn golygu 535 yn llai o drawsblaniadau.

Roedd 422 o drawsblaniadau arennau rhoddwyr byw yn y DU yn 2020/21. Yn 2019/20, roedd y ffigur yn 1,039. Roedd hyn yn ostyngiad o 60%, a oedd yn golygu 617 yn llai o drawsblaniadau.