Ffeithiau am roi cornbilennau
Rydym ni eisiau i chi allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â rhoi eich cornbilennau ai peidio, felly rydym ni wedi ateb rhai o'r camsyniadau cyffredin.

Y gornbilen yw'r rhan o'r llygad sy'n cael ei thrawsblannu
Efallai y clywch chi bobl yn sôn am roi llygaid, ond er bod y llygad cyfan yn cael ei roi, y gornbilen sy'n cael ei thrawsblannu.
Y gornbilen yw’r haen allanol glir o feinwe o flaen y llygad sy’n gadael golau i mewn fel eich bod yn gallu gweld.
Gallwch newid eich meddwl
Gallwch newid eich meddwl yn rhwydd am roi cornbilennau unrhyw adeg. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw diwygio eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Nid yw canser yn eich atal rhag rhoi eich cornbilennau
Gall pobl â’r rhan fwyaf o fathau o ganser dal roi eu cornbilennau. Nid yw’r cornbilennau’n cynnwys pibellau gwaed, sy’n dileu’r risg o drosglwyddo’r rhan fwyaf o fathau o ganser.
Nid yw golwg wael yn eich atal rhag rhoi eich cornbilennau
Gall pobl â golwg wael dal roi eu cornbilennau. Nid yw llawer o gyflyrau sy’n effeithio ar olwg person yn effeithio’n uniongyrchol ar y cornbilennau, sy’n golygu ei bod hi dal yn bosibl i'w rhoi.
Nid yw rhoi cornbilennau yn gohirio angladd y rhoddwr
Nid yw rhoi cornbilennau yn gohirio unrhyw drefniadau angladdol, ac mae ein nyrsys arbenigol bob amser yn siarad â’r teulu i weld a oes ystyriaethau ynghylch ffydd, credoau neu ddiwylliant rhywun mewn perthynas â chynlluniau angladd.
Nid yw rhoi cornbilennau yn effeithio ar sut mae rhoddwr yn edrych
Ar ôl i’r rhoddwr roi ei lygaid, bydd ein tîm arbenigol yn gwneud yn siŵr ei fod yn edrych fel y byddai wedi gwneud fel arall. Ni fydd rhoi’r llygaid yn atal rhoddwr rhag cael angladd â chasged agored.

Stori Angharad
Cafodd Angharad ei geni gyda chataractau yn y ddau lygad a chyflwr o’r enw microffthalmia, sef pan fydd y llygaid yn stopio datblygu yn ystod beichiogrwydd.
Roedd angen i Angharad gael cornbilennau a sawl llawdriniaeth er mwyn cadw ei chanfyddiad o olau, rhywbeth sy'n ein galluogi i ganfod golau, adnabod golau oddi wrth dywyllwch, a ffurfio delwedd o'n hamgylchedd.
Fel teulu, rydym ni mor ddiolchgar bod rhywun wedi dewis rhoi eu cornbilennau... Ni all geiriau fynegi pa mor ddiolchgar ydw i.Lynda, mam Angharad