Y Galon
Mae gwaed sy'n cael ei bwmpio o amgylch eich corff gan eich calon yn cludo ocsigen a maetholion. Heb y galon, ni fyddai eich corff yn cael ocsigen. Mae’n bosib trawsblannu’r galon gyfan, neu mae modd trawsblannu’r falfiau (ysgyfeiniol ac aortig) mewn rhai achosion.
Ysgyfaint
Mae eich ysgyfaint yn cyflenwi ocsigen i'ch gwaed ac yn clirio carbon deuocsid o'ch corff. Heb ysgyfaint iach, ni allech anadlu'n iawn.
Arennau
Mae eich arennau yn hidlo gwastraff o'ch gwaed ac yn eu troi'n wrin. Pan fydd eich arennau'n rhoi'r gorau i weithio gallwch ddatblygu methiant yr arennau. Mae wastraff niweidiol a hylifau yn cronni yn eich corff a gall eich pwysedd gwaed godi. Gallwch chi fyw'n iach gydag un aren.
Iau / Afu
Mae eich iau / afu yn cynhyrchu bustl i lanhau eich corff. Os nad yw eich iau / afu yn gweithio yn iawn, byddwch yn dechrau teimlo'n flinedig, yn cael cyfog, chwydu, llai o chwant bwyd, wrin brown, neu hyd yn oed y clefyd melyn - sef gwyn eich llygaid yn melynu. Mae’n bosib trawsblannu’r afu/iau i gyd, neu mae modd trawsblannu’r celloedd (hepatocytes) mewn rhai achosion.
Cornbilennau
Mae'r gornbilen yn gadael golau i mewn i'ch llygaid, hebddynt ni fyddech yn gallu gweld. Mae'r gallu i weld yn werthfawr. Pob dydd yn y DU mae 100 o bobl yn dechrau colli eu golwg. Mae bron i 2 filiwn o bobl yn y DU yn byw gyda cholled golwg sylweddol. Gall eich rhodd helpu rhywun i adennill eu golwg.
Pancreas
Mae eich pancreas yn eich abdomen. Mae'n cynhyrchu inswlin i reoli eich lefelau siwgr yn y gwaed. Os nad yw eich pancreas yn gweithio'n iawnbydd lefel y siwgr yn eich gwaed yn codi, a gallai hynny arwain at ddiabetes. Mae’n bosib trawsblannu'r pancreas i gyd, neu mae modd trawsblannu’r celloedd (celloedd islet) mewn rhai achosion.
Meinwe
Grŵp o gelloedd sy’n gwneud gwaith penodol yn eich corff yw meinwe. Mae rhoddion meinwe fel croen, esgyrn a thendonau yn achub ac yn gwella cannoedd o fywydau bob blwyddyn. Gall un rhoddwr meinwe wella bywyd mwy na 50 o bobl.
Coluddyn bach
Mae'r coluddyn bach yn amsugno maetholion a mwynau o fwyd rydym yn ei fwyta. Os yw eich coluddyn bach yn methu, ni fyddwch yn gallu treulio bwyd. Byddai angen i chi gael maeth drwy ddull arall, megis drwy beiriant diferu i mewn i'ch gwythïen.