Mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn annog teuluoedd yng Nghymru i siarad am roi organau ar Ddydd San Ffolant eleni
Gyda mwy na 300 o bobl ledled y DU, gan gynnwys 11 o gleifion yng Nghymru*, yn aros am drawsblaniad calon ar Ddydd San Ffolant eleni, mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn galw ar deuluoedd yng Nghymru i siarad am roi organau.
Er bod trawsblaniadau calon wedi parhau ledled y DU drwy gydol y pandemig, gyda dim ond 7% yn llai yn 2020/2021 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol**, mae’r rhestr aros am drawsblaniad calon wedi codi 85% yn y degawd diwethaf, o 169 o gleifion ym mis Mawrth 2012, i 313 ym mis Mawrth 2021***.
Mae’n bwysicach nag erioed bod teuluoedd yng Nghymru yn rhannu eu penderfyniadau ynghylch rhoi organau er mwyn achub mwy o fywydau.
Mae Ryan Gabb, 30 oed, o Wrecsam, wedi bod ar y rhestr aros am drawsblaniad calon ers mis Mai 2018. Cafodd bywyd Ryan ei droi ben i waered ym mis Medi 2017 pan aeth yn sâl iawn yn sydyn.
Esboniodd Ryan: “Roeddwn i wedi bod yn teimlo braidd yn sâl ers rhai wythnosau, blinder cyffredinol a symptomau tebyg i ffliw na allwn i'w hysgwyd. Roeddwn i'n gwaethygu’n raddol ac roeddwn i'n dechrau mynd yn fyr o wynt. Roeddwn yn gwybod bod rhywbeth o’i le, felly benthycais Fitbit ffrind i wirio cyfradd fy nghalon ac roedd dros 100. Roeddwn yn gwybod bod angen sylw arnaf, felly gadewais y gwaith a mynd i weld meddyg.
“Anfonodd y meddyg teulu fi'n syth i'r ysbyty, lle datgelodd sgan fy mod yn dioddef o Cardiomyopathi lledagored, a dywedwyd wrthyf ei bod yn debygol y byddai angen trawsblaniad calon arnaf. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy nghlustiau, ac roeddwn i mewn sioc lwyr, roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i wedi bod yn iach ond doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd mor ddifrifol.”
Cafodd Ryan ei fonitro dros y dyddiau nesaf a, phum niwrnod yn ddiweddarach, cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Fanceinion ar ôl mynd i sioc gardiogenig. Cafodd ei ychwanegu at restr aros brys y galon, ond yna cafodd LVAD – sef pwmp calon brys – cyn cael ei ail-gofrestru ar gyfer trawsblaniad ym mis Mai 2018.
Esboniodd Ryan: “Rwy'n gwneud yn eithaf da gyda'r LVAD ar hyn o bryd, ond gall aros am drawsblaniad fod yn anodd. Rhaid i mi gadw fy ffôn wrth law bob amser, ac mae angen cyflenwad trydan rheolaidd arnaf er mwyn gwefru batris yr LVAD. Rwy’n pryderu o hyd am doriadau pŵer. Dywedwyd wrthyf y gallwn aros yn hir am galon newydd, sy'n anodd derbyn yng nghanol eich ugeiniau. Roedd yn rhaid i mi orffen gweithio oherwydd roedd fy swydd yn eithaf corfforol.
“Rwy'n gobeithio y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn dod â rhywfaint o normalrwydd a gobeithio hefyd y bydd mwy o bobl yn trafod rhoi organau gyda'u teuluoedd ac yn cofrestru eu penderfyniad. Dydych chi byth yn gwybod pryd na phwy y gallai fod angen y cymorth hwnnw. Roeddwn i'n arfer bod yn rhoddwr gwaed rheolaidd ac ymunais â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG hefyd pan oeddwn yn 18 oed. Roeddwn i'n meddwl bod y ddau yn bwysig, ond doeddwn i byth yn disgwyl y byddai fy mywyd yn newid cymaint.”
Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau bellach wedi symud at system optio allan ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y bydd teuluoedd yn dal i fod yn rhan o’r broses rhoi organau ym mhob achos.
Er bod teuluoedd yn fwy tebygol, ac yn ei chael yn haws, i gefnogi rhoi organau pan fyddant yn gwybod mai dyna oedd dymuniad eu hanwyliaid, dim ond 43% o boblogaeth y DU sydd wedi cofrestru eu penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, a dim ond 38% sy’n dweud eu bod wedi rhannu eu penderfyniad rhoi organau gyda’u teuluoedd.
Roedd Jack Baker, 27 oed, yn nyrs ICU yn Ysbyty Southmead, a ddioddefodd waedu ar yr ymennydd wrth feicio adref o sifft ym mis Awst 2020. Cymerwyd Jack, a astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cymhwyso fel nyrs, yn ôl i Southmead, lle derbyniodd ofal gan ffrindiau a chydweithwyr. Ar ôl iddo farw, aeth Jack, oedd o Fryste, ymlaen i roi ei galon, afu ac arennau, gan helpu pedwar o bobl.
Dywedodd Helen, mam Jack: “Roedd Jack yn eiriolwr angerddol dros roi organau ac roedd bob amser wedi cario cylch allweddi “I Donate”. Roedd ganddo uchelgais i ymuno â’r tîm rhoi organau yn yr ysbyty, ac roedd wedi cael ei annog gan ei gyd-nyrsys i wneud cais, gan ein bod ni i gyd yn gwybod y byddai wedi bod yn wych yn y swydd.
“Pan gymerwyd Jack i roi ei organau, ysgrifennodd aelodau staff o bob rhan o’r ICU negeseuon ato ar galonnau papur a oedd yn gorchuddio ei wely. Roedd staff yn leinio'r coridorau i ffarwelio ag ef, a buont yn chwarae ei hoff gân 'I lived' gan OneRepublic.
“Doedd dim unrhyw amheuaeth bod Jack eisiau rhoi ei organau, gan ei fod yn benderfyniad yr oedd eisoes wedi’i wneud ac roeddem ni, fel teulu, wedi cael y sgwrs am roi organau. Mae’r ffaith fod Jack yn rhoddwr organau wedi ein helpu yn ein galar, ac mae meddwl bod rhyw ran o Jack yn dal yn y byd yn gysur mawr i ni.
“Mae rhoi organau yn beth mor bositif i ddod allan o sefyllfa drasig iawn. Rydym wedi clywed gan ddau o dderbynwyr Jack, ac mae gwybod bod ei dderbynwyr yn gwneud yn dda, a bod eu bywydau wedi gwella, yn golygu popeth i ni. Bydd Jack yn cael ei garu a’i golli am byth.”
Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi Organau a Meinweoedd a Thrawsblaniadau yn Adran Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Mae miloedd o bobl ledled y DU, gan gynnwys cannoedd o gleifion yng Nghymru, yn aros i glywed bod rhoddwr ar gael i achub neu i drawsnewid eu bywydau, ac mae cannoedd ohonyn nhw, gan gynnwys 11 o bobl yng Nghymru, angen trawsblaniad calon. Rydym yn annog pawb yng Nghymru i drafod rhoi organau nawr.
“Siaradwch gyda’ch teulu, a dywedwch wrthyn nhw am eich penderfyniad i roi organau, gan eu gadael yn sicr o hynny. A gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth fydden nhw ei eisiau hefyd, fel y gallwch chi gefnogi eu penderfyniad. Trafodwch roi organau ar Ddydd San Ffolant eleni, a rhannwch eich penderfyniad er mwyn helpu i achub mwy o fywydau.”
Fel rhan o ymgyrch Heart to Heart, bydd Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn rhannu fideo gan yr artist llafar, Adaya Henry, i helpu i annog mwy o bobl i gael y sgwrs am roi organau.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru eich penderfyniad i roi organau, ewch i: www.organdonation.nhs.uk neu ffoniwch 0300 123 23 23. Gall defnyddwyr ap y GIG hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth i gofnodi, gwirio neu ddiweddaru eu penderfyniad rhoi organau.
* Y rhestr aros weithredol ar 3 Chwefror 2022 – 311 o gleifion yn aros am galon, gan gynnwys 45 o blant.
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021, roedd 218 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ac roedd angen trawsblaniad calon ar 11 ohonynt.
** Gostyngodd nifer y trawsblaniadau calon 7% i 161 yn 2020/2021, o 174 yn 2019/2020.
*** Mae nifer y cleifion a oedd yn weithredol ar y rhestr trawsblaniadau calon ar ddiwedd y flwyddyn wedi cynyddu 85% ers 2012. Roedd 169 o bobl ar y rhestr aros am galon ym mis Mawrth 2012, o gymharu â 313 ar ddiwedd mis Mawrth 2021.