Diolch yn fawr
Cam 1 – Cwblhawyd
Diolch yn fawr, bydd eich penderfyniad i beidio â rhoi eich organau a’ch meinwe ar ôl eich marwolaeth yn cael ei gofnodi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a byddwn yn postio llythyr o gadarnhad i’r cyfeiriad post rydych chi wedi’i roi i ni. Cofiwch y gall y llythyr gymryd hyd at ddeg wythnos i gyrraedd ac os yw’n well gennych chi, gallwch ein ffonio ni ar 0300 123 23 23 i gadarnhau bod eich manylion wedi cael eu cofrestru.
Cam 2 – Cofiwch siarad gyda’ch teulu
Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i’ch teulu eich bod wedi gwneud penderfyniad i beidio â bod yn rhoddwr organau a meinwe pan fyddwch yn marw. Os byddwch yn marw o dan amgylchiadau lle mae rhoi organau’n bosib, byddwn yn siarad gyda’ch teulu am y ffaith eich bod wedi cofrestru penderfyniad i beidio â rhoi ac yn gwirio nad oes ganddynt hwy wybodaeth ddiweddarach am eich penderfyniad.
Ni fyddant yn gwybod beth rydych chi ei eisiau oni bai eich bod yn dweud wrthynt, felly cofiwch eu helpu i gefnogi eich penderfyniad ar amser anodd drwy siarad gyda nhw am y mater nawr.
Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch newid eich cofrestriad ar unrhyw adeg.
Efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn...
Gweld y gwahaniaeth anhygoel mae rhoi organau’n gallu ei wneud.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhoddwr gwaed?
Os ydych chi rhwng 17 a 65 oed, gallwch gofrestru i fod yn rhoddwr gwaed.
Cymru | Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon