Rydych chi wedi diweddaru eich manylion yn llwyddiannus

Cam 1 - Cwblhawyd

Diolch i chi am gyflwyno eich manylion yn llwyddiannus, rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich bod chi wedi cysylltu.

Bydd eich cofnod yn cael ei ddiweddaru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Cam 2 - Siaradwch gyda’ch teulu

Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i’ch teulu a ydych chi wedi gwneud penderfyniad i roi eich organau a/neu eich meinwe ai peidio pan fyddwch yn marw. Os yw rhoi’n bosibl ac os ydych chi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, byddwn yn rhoi gwybod i’ch teulu eich bod wedi cofrestru ac yn gofyn iddynt gefnogi’r penderfyniad rydych chi wedi’i wneud.

Os ydych chi wedi cofrestru penderfyniad a’ch bod chi’n marw dan amgylchiadau lle byddai’n bosib rhoi organau, byddwn yn siarad â’ch teulu am y ffaith eich bod wedi cofrestru i beidio â rhoi organau ac yn gwneud yn siŵr nad oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth fwy diweddar am eich penderfyniad.

Ni fydd eich teulu’n gwybod beth ydych chi ei eisiau oni bai eich bod yn dweud wrthyn nhw, felly peidiwch â gadael iddo fod yn sypreis. Helpwch nhw nawr i gefnogi eich penderfyniad ar amser anodd.

Fedrwch chi achub mwy fyth o fywydau?

Os ydych chi rhwng 17 a 65 oed, gallwch gofrestru i fod yn rhoddwr gwaed.

Cymru | Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon